Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 13
Hydref 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(60 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ailgylchu a'r Adferiad Gwyrdd
(45 munud)
4 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2020
(45 munud)
5 Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Mynd i'r Afael â Pharcio ar y Palmant
(45 munud)
6 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Wasanaethau Mamolaeth a Gwelliannau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
(45 munud)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 7-8 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
(30 munud)
7 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020
NDM7425 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Medi 2020.
Dogfennau Ategol
Ymateb y Llywodraeth i Adroddiad y Pwyllgor
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
8 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020
NDM7424 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 9-10 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
(60 munud)
9 Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)
NDM7422 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).
Gosodwyd y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 10 Chwefror 2020.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) gerbron y Senedd ar 1 Hydref 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
10 Y Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)
NDM7423 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
11 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 14 Hydref 2020